#LlaisAwards 2024
“Rydw i wastad wedi cael fy nylanwadu a fy ysbrydoli gan gymaint o ferched anhygoel. Fel Mam i ferch fach gryf, dwi’n angerddol iawn am rymuso eraill trwy fy musnes ac yn fy mywyd personol. Mae Gwobrau Merched Mewn Busnes Llais Cymru yn unigryw, yn blatfform i ddathlu bob merch busnes ledled Cymru ac ysbrydoli mwy o ferched o bob oed a chefndir i ddilyn eu breuddwydion busnes.”
Heulwen Davies
Cyfarwyddwr Llais Cymru.
I bwy mae’r gwobrau?
Mae #LlaisAwards yn agored i unrhyw ferch sy’n rhedeg unrhyw fath o fusnes yng Nghymru. Nid yw maint y busnes o bwys, y ferch sy’n ei redeg sy’n bwysig.
Categorïau?
Mae yna 14 categori sy’n adlewyrchu'r ystad eang o fusnesau yng Nghymru heddiw. Popeth o ‘Busnes Gwyrdd’ i ‘Pencampwr Manwerthu’ i ‘Mam Mewn Busnes’. Mae’r rhestr lawn i’w weld ar dop y ffurflen enwebu.
​
Pwy alla i enwebu?
Mae modd enwebu ti dy hun neu rywun arall. Mae modd enwebu mwy nag un ferch ond does dim modd enwebu’r un ferch mwy nag unwaith.
Y broses enwebu?
Mae’r enwebiadau ar agor rhwng y 8fed o Fawrth a’r 8fed o Fehefin. Clicia ar y botwm ‘enweba nawr’ i fynd amdani!
Y Rhestr Fer?
Y merched fydd gyda’r nifer uchaf o enwebiadau fydd yn cyrraedd y rhestr fer, felly rhanna’r neges er mwyn cael gymaint o enwebiadau ac sy’n bosib! Os bydd dwy ferch yn dod i’r brig, bydd panel annibynnol yn cyfweld â nhw er mwyn penderfynu ar yr enillydd. Bydd y ddwy ferch sydd wedi dod i’r brig ym mhob categori yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Tanysgrifia i’r cylchlythyr i fod yn y cyntaf i glywed y newyddion.
Enillwyr?
Bydd y ddwy sy’n dod i’r brig ym mhob category yn cael eu gwahodd i noson wobrwyo arbennig ym mis Medi - mwy o newyddion i ddilyn!
Diolch - diolch enfawr i Banc Datblygu Cymru am fod yn brif noddwr y gwobrau am 4 blwyddyn yn olynol!
Dyma enillwyr #LlaisAwards 2023:
​
Busnes Newydd - wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru a Busnes Cymru;
Krishnan-Gray o PataPata, Ynys Môn.
Defnydd o’r Gymraeg - wedi’i noddi gan Tinopolis;
Nia Haf Jones o Traed Fyny, Dinbych
Mam Mewn Busnes - wedi’i noddi gan Elevate Business Coaching;
Catrin Hughes o Dwylo Bach, Gwynedd a Môn
Merched Dan 25 oed;
Tia Robbins o Tia Robbins Art, Pen-y-bont ar Ogwr.
Pencampwr Manwerthu;
Sophie Page o Koko, Porthcawl
Menter Gymdeithasol, wedi ei noddi gan Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru;
Adele Williams o Ton Da C.I.C., Hwlffordd
Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio;
Ceri Williams o Grey Dog Gallery, Y Mwmbwls
Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesedd wedi’i noddi gan Gwe Cambria;
Phillipa Webb o Medical Connections Limited, Abertawe.
Iechyd, Ffitrwydd a Lles;
Celyn Lazenby o Celyn Lazenby PT, Rhydaman
Bwyd a Diod, wedi’i noddi gan Cywain, Menter a Busnes;
Emily Morgan o Tea By The Sea, Porthcawl
​
Busnes Gwyrdd;
Adele Williams o Green Wave Hair Workshop, Hwlffordd
Gwallt a Harddwch;
Ceri Wyn Jones o Cwt Bach Ceri, Rhyd-y-foel.
Hamdden a Thwristiaeth;
Tracey Toulmin o Bryn Woodlands House, Bae Colwyn.
Gwylia ffrwd fyw o'r noson isod!
Dyma enillwyr #LlaisAwards 2022:
​
• Dan 25
Katie Clement McCreesh, KCM Fitness
• Llwyddo’n Llawrydd
Anna Davies, You Are My Sunshine Services
• Hamdden & Thwristiaeth
Ruth Stronge, Snowdonia Donkeys
• Ffotograffwyr & Dylunwyr
• Busnes Newydd
• Manwerthwr Ar-Lein
• Bwyd & Diod
• Defnydd o'r Gymraeg
Meinir ac Efa Edwards, Cylchgrawn Cara
• Gwallt & Harddwch
• Dylanwadwyr
Layla Mangan, Layla Mangan Interiors
• Mam Mewn Busnes
Rhian Davies, RT Training and Skills
• Gwyddoniaeth, Peirianneg & Technoleg
• Celf & Chrefft
• Busnes Gwyrdd
Sally Jones, Beeswax Fabric Wraps
• Arwr y Stryd Fawr
Tesni Boughen, Botanical Babe Plants
• Iechyd, Ffitrwydd & Lles
Dyma rhestr enillwyr #LlaisAwards 2021:
​
• Gwasanaethau Gofal
• Bwyd a Diod
Katie Hayward, Felin Honey Bees
• Dylanwadwyr
Hanna Hopwood, Gwneud Bywyd yn Haws
• Artistiaid, Ffotograffwyr a Gwneuthurwyr
Ffion Godwood
• Caffis a Bwytai
• Natur ac Amaethyddiaeth
• Cerddorion, Perfformwyr ac Awduron
Marilyn Evans, Soundout Roadshow
• Defnydd o'r Gymraeg
• Manwerthwr Arlein
• Gwallt a Harddwch
Karl-Leigh Lewis, Marley's Roots
• Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg
• Mam Mewn Busnes
• Arwr y Stryd Fawr
Emma Dixon, Amlwch Dog Grooming
• Hamdden a Thwristiaeth
Amber Lort-Phillips, Big Retreat Wales
• Iechyd, Ffitrwydd a Lles
​