#LlaisAwards 2023
![137_pinc_gwenu[1].jpg](https://static.wixstatic.com/media/4c8a9b_1c7a4de039ea47ef99cfb11df136f75d~mv2.jpg/v1/crop/x_0,y_588,w_2360,h_2360/fill/w_188,h_188,al_c,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,enc_auto/137_pinc_gwenu%5B1%5D.jpg)
"Rwy'n angerddol am gefnogi, ysbrydoli a grymuso merched. Mae gwobrau Llais Cymru yn unigryw ac yn yn gyfle i ddathlu a chydnabod cyflawniadau anhygoel merched busnes ar draws Cymru."
Heulwen Davies
Cyfarwyddwr Llais Cymru.
Croeso! Mae #LlaisAwards, sef Gwobrau Merched Cymru Mewn Busnes 2023 yn agored i unrhyw ferch sy'n rhedeg busnes yma yng Nghymru. Tydy maint ddim o bwys i ni! Gallwch chi fod yn fand un ferch neu'n sylfaenydd benywaidd cwmni enfawr. Efallai eich bod chi yn fusnes newydd neu efallai bod eich busnes wedi bod o gwmpas ers hanner canrif - rydych chi i gyd yr un mor anhygoel!
Eleni, mae gennym 13 categori i adlewyrchu'r amrywiaeth o fusnesau er mwyn bod mor deg a hygyrch â phosib. Does dim rhaid i chi enwebu merch ym mhob categori, ond dim ond un merch ym mhob categori y gallwch chi enwebu. Gallwch chi bleidleisio drosoch eich hun hefyd - pam lai? Rydych chi wedi gweithio'ch sanau i ffwrdd i gyrraedd yma, felly rydych chi'n haeddu'r enwebiad!
Bydd y cyfnod enwebu ar agor nes ddydd Mercher, 19eg o Ebrill am 17:00 GMT.
Mae’r rhestr fer yn seiliedig ar y nifer o enwebiadau bydd y ferch yn derbyn, dyna’r ffordd mwyaf teg yn ein barn ni. Bydd y rhestr fer, sef y ddwy uchaf ymhob categori yn cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin.
Os bydd mwy na dwy yn dod i’r brig mewn categori, byddwn yn gwahodd y merched am gyfweliad ar-lein gyda phanel o arbenigwyr busnes annibynnol yn Mai, er mwyn penderfynnu ar y merched buddigol.
Trwy gefnogaeth gan Yr Egin, Caerfyrddin, bydd y noson wobrywo yn cael ei chynnal yn fyw, mewn person am y tro cyntaf eleni! Bydd Noson Wobrwyo #LlaisAwards 2023 yn cael ei chynnal ar nos Wener y 7fed o Orffennaf - mwy o fanylion yn fuan!
Hoffai Llais Cymru ddiolch i Banc Datblygu Cymru am fod yn brif noddwr y gwobrau eto eleni ac am y gefnogaeth barhaus i ferched busnes Cymru.
Eisiau noddi categori penodol? Cysylltwch gyda Heulwen i drafod y buddion drwy ebostio heulwen@llaiscymru.wales
Categorïau #LlaisAwards 2023 yw:
• Busnes Newydd (llai 'na 12 mis oed)
• Mam Mewn Busnes
• Busnes Gwyrdd (busnes sy'n hybu'r amgylchedd)
• Dan 25 oed
• Pencampwr Manwerthu
• Menter Gymdeithasol
• Bwyd a Diod
• Defnydd o'r Gymraeg
• Iechyd, Ffitrwydd a Lles
• Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesedd
• Gwallt a Harddwch
• Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio
• Hamdden a Thwristiaeth



Dyma enillwyr #LlaisAwards 2022:
• Dan 25
Katie Clement McCreesh, KCM Fitness
• Llwyddo’n Llawrydd
Anna Davies, You Are My Sunshine Services
• Hamdden & Thwristiaeth
Ruth Stronge, Snowdonia Donkeys
• Ffotograffwyr & Dylunwyr
• Busnes Newydd
• Manwerthwr Ar-Lein
• Bwyd & Diod
• Defnydd o'r Gymraeg
Meinir ac Efa Edwards, Cylchgrawn Cara
• Gwallt & Harddwch
• Dylanwadwyr
Layla Mangan, Layla Mangan Interiors
• Mam Mewn Busnes
Rhian Davies, RT Training and Skills
• Gwyddoniaeth, Peirianneg & Technoleg
• Celf & Chrefft
• Busnes Gwyrdd
Sally Jones, Beeswax Fabric Wraps
• Arwr y Stryd Fawr
Tesni Boughen, Botanical Babe Plants
• Iechyd, Ffitrwydd & Lles

Dyma rhestr enillwyr #LlaisAwards 2021:
• Gwasanaethau Gofal
• Bwyd a Diod
Katie Hayward, Felin Honey Bees
• Dylanwadwyr
Hanna Hopwood, Gwneud Bywyd yn Haws
• Artistiaid, Ffotograffwyr a Gwneuthurwyr
Ffion Godwood
• Caffis a Bwytai
• Natur ac Amaethyddiaeth
• Cerddorion, Perfformwyr ac Awduron
Marilyn Evans, Soundout Roadshow
• Defnydd o'r Gymraeg
• Manwerthwr Arlein
• Gwallt a Harddwch
Karl-Leigh Lewis, Marley's Roots
• Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg
• Mam Mewn Busnes
• Arwr y Stryd Fawr
Emma Dixon, Amlwch Dog Grooming
• Hamdden a Thwristiaeth
Amber Lort-Phillips, Big Retreat Wales
• Iechyd, Ffitrwydd a Lles
