top of page

GEMWAITH LIRI

Rydym yn cydweithio gyda chwmni Gemwaith Liri ers Mehefin 2021. 

 

Rydym yn darparu gwansaeth marchnata a PR misol i helpu'r cwmni gemwaith gwych yma yn Ne Cymru, i godi'i llais ac i rannu'i stori.

 

Mae cwmni Liri yn arbenigo mewn gemwaith arian ac aur o safon uchel, ac mae'r gwaith wedi'i ysbrydoli gan dirlun gwledig Cymru. Yn ogystal a chasgliadau amrywiol mae'r cwmni hefyd yn gwneud gwaith comisiwn ac mae pob darn wedi'i greu'n gelfydd gyda llaw yn y gweithdy yn Ne Cymru.

 

Ystyr Liri? Gair o Albania sy'n golygu rhyddid. Ewch draw i'w gwefan i weld y gemwaith hyfryd ac i ddysgu mwy.

bottom of page