top of page
meddwl.org
Fel cwmni, rydym yn angerddol am hybu iechyd meddwl a lles gan gynnwys sicrhau cefnogaeth a hyblygrwydd i'n staff. Yn ystod Gwanwyn 2020 cawsom wahoddiad gan elusen Meddwl.org i drefnu cyfres o ddigwyddiadau wythnosol i hybu iechyd meddwl a lles.
Roedd yr ymateb yn wych ac rydym yn parhau i drefnu'r digwyddiadau #MawrthMeddwl ar Facebook Meddwl bob nos Fawrth. Mae wedi bod yn wych cydweithio gydag ymarferion amrywiol o athrawon ioga i artistiaid er mwyn cynnal y digwyddiadau pwysig yma yn y Gymraeg.
Yn ogystal a'r digwyddiadau wythnosol rydym hefyd yn trefnu digwyddiadau i annog trafodaethau am bynciau pwysig megis iselder a bi polar.
bottom of page