top of page

Gwobrau Unigryw Llais Cymru yn Dathlu Pedair Mlynedd o Hybu Merched Busnes Cymru


Mae Gwobrau Llais Cymru i Ferched Cymru Mewn Busnes, neu’r #LlaisAwards fel mae’n cael ei adnabod, yn dathlu cyfraniad pwysig merched i’r byd busnes yng Nghymru. Yn wahanol i’r Gwobrau busnes traddodiadol, mae Gwobrau Llais Cymru yn unigryw, yn ddigwyddiad cenedlaethol a dwyieithog sy’n dathlu busnesau o bob math ac o bob maint, ac yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan.


Heulwen Davies, Cyfarwyddwr Llais Cymru sydd wrth wraidd y cyfan. Wedi lansio Mam Cymru, blogzine dwyieithog i hybu mamau Cymru nol yn 2017, cyhoeddi ei llyfr ‘Mam Croeso i’r Clwb’ gyda gwasg Y Lolfa yn 2018 ac yn fwy diweddar wedi cyfrannu ei stori a chefnogi Cylchgrawn Cara gyda’r gyfrol ‘Menopositif’ yn 2023, mae Heulwen yn angerddol iawn am gefnogi merched Cymru;


“Yn Fam i lodes 11 oed ac yn un sydd wedi fy magu mewn teulu a chymuned o ferched cryf, dwi’n cael boddhad mawr o helpu ac ymbweru merched. Mae rhedeg busnes yn anodd i bawb, ond dwi’n credu ei bod hi’n anoddach i ferched. Pam? Mislif, beichiogrwydd, menopôs heb son am ddisgwyliadau cymdeithas. Mae’r ffaith bod merched Cymru’n parhau i fynd amdani a chreu cyfleoedd i bobl eraill yn rhywbeth sydd angen ei ddathlu a’i genhadu, dyna’n union pam mae’r Gwobrau yma’n bodoli - i roi llais a llwyfan i’r holl ferched sy’n gwneud gwaith gwych yn ein cymunedau Cymreig.”


Prif noddwr y Gwobrau eto eleni yw Banc Datblygu Cymru. Wedi bod yn brif noddwr ers y dechrau maent yn falch o hybu merched busnes Cymru;


“Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi Heulwen unwaith eto, sy’n gweithio’n ddiflino i amlygu a dathlu llwyddiannau merched mewn busnesau Cymreig. Mae Gwobrau Llais Cymru yn rhoi llwyfan i fodelau rôl ac arweinwyr i rannu eu profiad ar sut maent wedi goresgyn rhwystrau i fentergarwch ac wedi chwarae rhan bwysig wrth greu economi Gymreig gynhwysol. Mae Banc Datblygu yn hynod o angerddol ynghylch ein hymrwymiad i gefnogi merched mewn busnes ledled Cymru. Mae gan tua thraean o’r busnesau rydyn ni’n eu cefnogi gyfarwyddwyr benywaidd, ffigwr rydyn ni’n benderfynol o barhau i gael effaith gadarnhaol arno.” Beverley Downes, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu, Banc Datblygu Cymru


Fel sefydliad sydd eisiau gweld mwy o ferched busnes yng Nghymru yn ystyried y farchnad ehangach, mae’r Adran Busnes a Masnach yn falch o gefnogi Gwobrau Llais Cymru am y tro cyntaf eleni;


“Yr adran ar gyfer tyfiant economaidd yw’r Adran Busnes a Masnach. Mae tyfiant busnesau wedi eu harwain gan ferched yn hanfodol ar gyfer yr economi a’r dyfodol. Dyma pam rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o Wobrau Llais Cymru eleni, yn dathlu tyfiant, arloesedd a llwyddiant busnes merched yng Nghymru.” Tom Taylor, Is - Gyfarwyddwr, Adran Busnes a Masnach, Cymru.


Wedi cynnal y ddau ddigwyddiad cyntaf ar-lein, cafodd #LlaisAwards 2023 ei chynnal mewn person am y tro cyntaf diolch i gefnogaeth a phartneriaeth gyda Chanolfan S4C Yr Egin. Yn dilyn llwyddiant y noson hwyliog a ffrydiwyd yn fyw ar YouTube, bydd y Gwobrau’n dychwelyd i’r Egin eto eleni;


“Pleser yw cael croesawu merched busnes Cymru i'r Egin unwaith eto eleni ar gyfer y Gwobrau hollbwysig yma. Bu llynedd yn noson gofiadwy o ddathlu'r amrywiaeth eang o fusnesau sydd â merched brwdfrydig ac uchelgeisiol wrth y llyw. Mae’r Egin yn hwb busnes a thros 16 o fusnesau wedi ymgartrefu yma. Rydym yn falch i gefnogi ac edrychwn ymlaen yn fawr at y noson”. Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin.


Llynedd, derbyniwyd 4,328 o enwebiadau ar gyfer merched busnes o bob cornel o Gymru.

Eleni eto mae categorïau sy’n cydnabod cyfraniad merched i feysydd amrywiol o wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg i gategorïau unigryw fel ‘Mam Mewn Busnes’. Categori newydd eleni yw ‘Pencampwr y Menopôs’;


Meddai Heulwen; “Fel un sy’n mynd trwy’r perimenopôs, gallai gadarnhau mai hwn yw’r her fwyaf ‘dwi wedi gwynebu yn fy mywyd ac yn y gwaith. Mae angen chwalu’r stigma a normaleiddio’r sgwrs o amgylch y pwnc, dyma pam rwy’n cyflwyno’r categori newydd yma eleni, i ddathlu’r cyflogwyr hynny sy’n cefnogi merched trwy’r menopôs ac i annog eraill i wneud mwy. Mae’r categori yn agored i’r rhai sy’n cefnogi staff trwy’r menopôs neu’n llwyddo i gynnal a thyfu busnes tra’n byw efo’r menopôs”.


Bydd enwebiadau #LlaisAwards 2024 yn fyw ac ar agor ar www.llaiscymru.wales o’r 8fed o Fawrth - Diwrnod Rhyngwladol Merched a phen-blwydd Llais Cymru yn bedair oed! Dyddiad cau enwebiadau yw’r 8fed o Fehefin, gyda’r rhestr fer, sy’n nodi’r merched gyda’r nifer uchaf o enwebiadau, yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Bydd y ddwy sy’n dod i’r brig ym mhob categori yn cael eu gwahodd i’r noson wobrwyo arbennig yn yr Egin ym mis Medi.


Yr 14 Categori yn #LlaisAwards2024 yw;


Busnes Newydd (llai ‘na 12 mis oed)

Mam Mewn Busnes

Busnes Gwyrdd

Dan 25 Oed

Pencampwr Menopôs

Pencampwr Manwerthu

Menter Gymdeithasol

Bwyd a Diod

Defnydd o’r Iaith Gymraeg

Iechyd, Ffitrwydd a Lles

Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesedd

Gwallt a Harddwch

Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio

Hamdden a Thwristiaeth


Am fanylion pellach neu gyfweliadau, cysylltwch gyda heulwen@llaiscymru.wales/ 07817591930






bottom of page