top of page

Llais Cymru yn Cyhoeddi Rhestr Fer #LlaisAwards 2023



Mae Gwobrau Llais Cymru i Ferched Cymru Mewn Busnes, neu’r #LlaisAwards fel mae’n cael ei adnabod erbyn hyn, yn gyfle i ddathlu a chydnabod cyfraniad pwysig merched i’r byd busnes yng Nghymru. Dyma’r unig ddigwyddiad cenedlaethol a dwyieithog o’i fath. Bellach yn y drydedd flwyddyn, mae Heulwen Davies, Sylfaenydd y Gwobrau a Chyfarwyddwr Llais Cymru wedi gwirioni ar ôl derbyn 4,328 o enwebiadau eleni!


Meddai Heulwen “Dwi’n angerddol am gefnogi ac ymbweru merched ymhob ffordd posibl. Yn syth ar ôl lansio Llais Cymru, ro’n i am ddefnyddio fy musnes a fy arbenigedd marchnata a PR i ddatblygu platfform i gefnogi cyd ferched busnes yng Nghymru. Mae rhedeg busnes yn anodd i bawb, ond dwi’n credu’n gryf bod merched yn wynebu llawer mwy o heriau; mislif, beichiogrwydd, perimenopos, y menopos a diffyg cefnogaeth ac anogaeth yn aml iawn i ddilyn eu breuddwyd ym myd busnes. Mae’n wych gweld gymaint o ferched yn cael eu henwebu eleni, mae’n dangos bod pobl Cymru a thu hwnt yn gwerthfawrogi’r gwaith caled ac ymdrechion arbennig merched busnes Cymru”.


Prif Noddwr y Gwobrau eto eleni yw Banc Datblygu Cymru, sefydliad sy’n gefnogol iawn o ferched ym myd busnes. Meddai Beverly Downes, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu Banc Datblygu Cymru; “Unwaith eto eleni rydym yn falch o fod yn brif noddwr ar Wobrau Llais Cymru i Ferched Cymru Mewn Busnes, sy’n dathlu llwyddiant merched busnes Cymru.


“Mae’r busnesau sydd wedi’i henwebu eleni yn cael eu rhedeg gan ferched sy’n fodelau rôl ac yn arweinwyr sydd wedi goresgyn rhwystrau fel entrepreneurs ac sy’n chwarae rhan bwysig yn economi Cymru. Dylai pob un ohonynt fod yn falch iawn o’i hymdrechion.


“Rydym yn angerddol am ein hymrwymiad i gefnogi merched mewn busnes, a thimau sy’n cael eu harwain gan ferched yng Nghymru. Mae un o bob tri busnes rydym yn eu cefnogi yn fusnesau gyda merched wrth y llyw, ffigwr rydym yn benderfynol o barhau i ddylanwadu arno mewn ffordd bositif”.


Eleni, mae’r #LlaisAwards hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, trwy Busnes Cymru sy’n darparu llawer o adnoddau i helpu merched busnes ar hyd a lled Cymru. Byddant yn noddi day gategori; Busnes Newydd a Menter Gymdeithasol.


Meddai Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru; “Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi Gwobrau Llais Cymru ar gyfer Merched Cymru Mewn Busnes, sy’n ddathliad gwych o’r merched sy’n rhedeg busnesau yma yng Nghymru . Rydym yn gwbl ymrwymiedig i gefnogi ac annog mwy o ferched i ddechrau, cynnal a thyfu busnesau yng Nghymru. Hoffwn hefyd gydnabod gwaith di flino'r merched busnes sydd eisoes yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru, yn ogystal â hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle”.


Cywain, Menter a Busnes sydd wedi noddi’r categori bwyd a diod ers y dechrau. Meddai Rhiain Williams o Cywain; “Mae Cywain, Menter a Busnes yn hapus iawn i noddi’r categori Bwyd a Diod a’r derbyniad eleni. Dyma gyfle gwych i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o waith a chynnyrch busnesau bwyd a diod Cymru. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad arbennig hwn eto eleni”.


Yn wahanol i’r ddwy noson wobrwyo flaenorol sydd wedi’i cynnal ar-lein, eleni cynhelir y noson yn fyw mewn person, diolch i gefnogaeth Canolfan S4C Yr Egin Caerfyrddin, ble cynhelir y digwyddiad ar y 7fed o Orffennaf eleni.


Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin; “Rydym yn falch o gefnogi’r #LlaisAwards eleni. Dyma gyfle gwych i ffocysu ar amrywiaeth eang iawn o fusnesau sy’n cael eu rhedeg gan ferched talentog ac uchelgeisiol. Rydym yn edrych ymlaen at y noson”.


Felly, Pwy yw’r merched ar y rhestr fer yn yr 13 categori eleni?


Busnes Newydd - wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru a Busnes Cymru;

Jennifer Hall o Back To Beauty, Porthcawl ac Alaw Krishnan-Gray o PataPata, Ynys Môn.


Defnydd o’r Gymraeg - wedi’i noddi gan Tinopolis;

Nia Haf Jones o Traed Fyny, Dinbych a Ffion Mai Jones o Ciwticwls, Tregarth


Mam Mewn Busnes - wedi’i noddi ganElevate Business Coaching;

Catrin Hughes o Dwylo Bach, Gwynedd a Môn, a Nia Haf Jones o Traed Fyny, Dinbych.


Merched Dan 25 oed;

Beth Davies o Glow Into Social, Abertawe a Tia Robbins o Tia Robbins Art, Pen-y-bont ar Ogwr.


Pencampwr Manwerthu;

Sophie Page o Koko, Porthcawl ac Anwen Roberts o Draenog, Caernarfon.


Menter Gymdeithasol, wedi ei noddi gan Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru;

Adele Williams o Ton Da C.I.C., Hwlffordd a Fran Hunt o Intuative Healing, Pen-y-Bont ar Ogwr.


Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio

Ceri Williams o Grey Dog Gallery, Y Mwmbwls a Tia Robbins o Tia Robbins Art, Pen-y-Bont ar Ogwr.


Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesedd wedi’i noddi gan Gwe Cambria;

Sara Pendersen o Farm Dynamics, Y Bont-faen a Phillipa Webb o Medical Connections Limited, Abertawe.


Iechyd, Ffitrwydd a Lles;

Celyn Lazenby o Celyn Lazenby PT, Rhydaman a Mandy Boyd o The Base, Pen-y-bont ar Ogwr.


Bwyd a Diod, wedi’i noddi gan Cywain, Menter a Busnes;

Emily Morgan o Tea By The Sea, Porthcawl a Lara Leiws o Grazeful Feasts Pen y Bont ar Ogwr.


Busnes Gwyrdd;

Adele Williams o Green Wave Hair Workshop, Hwlffordd a Holly Hardy o Nook Candles, Caerdydd.


Gwallt a Harddwch;

Michelle Harris o Mint Hairdressing, Porthcawl a Ceri Wyn Jones o Cwt Bach Ceri, Rhyd-y-foel.


Hamdden a Thwristiaeth;

Lisa Marie-Harris o Mayzmusik Performing Arts Academy, Y Fenni a Tracey Toulmin o Bryn Woodlands House, Bae Colwyn.


Am fanylion pellach neu i drefnu cyfweliadau cysylltwch â Heulwen Davies yn Llais Cymru ar heulwen@llaiscymru.wales/ <mailto:heulwen@llaiscymru.wales/> 07817591930







bottom of page