Gwobrau Llais Cymru yn ôl i ddathlu merched busnes Cymru, ac ysgogi merched eraill i fentro.

Ar Ddiwrnod Rhynglwadol y Merched, mae Llais Cymru yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn trefnu ein ail #LlaisAwards er mwyn dathlu cyfraniad pwysig a llwyddiant merched busnes Cymru.
Llynedd, cafwyd ymateb anhygoel i’r Gwobrau Llais Cymru ar Gyfer Merched Cymru Mewn Busnes, sydd bellach yn cael ei adnabod fel y #LlaisAwards. Cafwyd 1,154 enwebiad yn y 15 categori a chyfle i ddathlu merched mewn pob math o feysydd; o’r diwydiant lletygarwch i wyddoniaeth, o fusnesau iechyd, ffitrwydd a lles i’r diwydiannau creadigol a thu hwnt. Mewn noson hwyliog ac emosiynnol ar-lein gwelwyd enillwyr led led Cymru’n cael eu gwobrwyo a’i cydnabod ar ol blwyddyn heriol tu hwnt;
Meddai Heulwen Davies, Cyfarwyddwr Llais Cymru “Mae dathlu, cefnogi ac ysbrydoli merched yn hollbwysig i fi fel person, fel perchennog busnes ac fel Mam i ferch ifanc. Roedd yr ymateb llynedd yn profi’r angen am ddigwyddiad o’r fath sy’n ffocysu ar gyfraniad gwerthfawr merched Cymru i bob math o fusnesau. Does dim digon o sylw yn cael ei roi i ferched busnes, ac ro’n i’n awyddus i newid hyn. Roedd yn amlwg yn hwb mawr i bawb gafodd eu henwebu, ac hefyd wedi ysgogi sawl un i fentro a dilyn eu breuddwyd ym myd busnes sy’n wych. Rwy’n edrych ymlaen i weld pwy fydd yn cael eu henwebu eleni”
Un o’r rhai gafodd ei gwobrwyo llynnedd oedd Katy Hayward o Felin Honeybees yng ngogledd Cymru; “Roedd cael fy enwebu yng Ngwobrau Llais Cymru yn anhygoel ac ennill y categori bwyd a diod yn fraint. Does dim digon o gydnabyddiaeth a sylw i ferched sy’n rhedeg busnesau, ac ryden ni’n gweithio mor galed ac yn jyglo llawer. Ro’n i mor hapus i ennill, roedd yn golygu’r byd ac yn hwb enfawr i fi”
Enillydd y categori Pencampwr y Gymraeg oedd Anwen Robets o gwmni Draenog yng nghanolbarth Cymru; “Wnes i erioed ddychmygu byddwn i’n cael fy enwebu ac roedd ennill y categori yma yn anhygoel! Roedd yn hwb mawr i fi ac yn gyfle i gwrdd a nifer o ferched busnes ar hyd a lled Cymru a chlywed am ei straeon anhygoel nhw. Ysbrydoliaeth a digwyddiad arbennig a chofiadwy.”
Cipiodd Awen Haf Ashworth o Sbarduno ddwy wobr yn 2021! Gwobr Mam Mewn Busnes a’r categori Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg. “Roedd hi’n fraint curo’r wobr Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg, dwi’n angerddol am wneud gwyddoniaeth yn hwyl. Roedd y wobr Busnes Mam ar gyfer fy meibion am fy ysgogi ac am fy helpu i greu cynnwys yn ystod y cyfnod clo. Diolch i Llais Cymru am drefnu a dathlu ein cyfraniad pwysig ni ferched”.
Eleni, rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau i'r categorïau i adlewyrchu'r byd busnes sy'n newid yn gyson, ac i sicrhau bod cynifer o ferched a phosibl yn cael eu cynrychioli bob tro. Mae’r categorïau newydd yn cynnwys ‘Llwyddo’n Llaw-rydd’, ‘Busnes Newydd’, ‘Busnes Gwyrdd’ a ‘Merched Dan 25 oed’.
Eleni, bydd y gyflwynwraig ifanc Mirain Iwerydd, sydd yn lais cyfarwydd i wrandwyr BBC Radio Cymru ac yn wyneb cyfarwydd ar raglenni Hansh S4C, yn cyd gyflwyno’r #Llais Awards gyda Heulwen. Fel y llynedd bydd y noson wobrwyo yn cael ei gynnal ar lein ar yr 8fed o Orffennaf, ac yn cynnwys adloniaint byw gan artist arbennig o Gymru ac ambell i sypreis hwyliog arall!
O heddiw ymlaen, gallwch fynd ati i enwebu’r merched busnes, trwy gwblhau’r ffurflen enwebiadau ar ein gwefan - www.llaiscymru.wales. Bydd y rhestr fer yn cael ei chyhoeddi yn Mehefin a’r enillwyr yn cael eu gwobrwyo’n fyw yn y digwyddiad ar yr 8fed o Orffennaf gan dderbyn gwobr arbennig wedi’i chomisiynnu gan Llais Cymru, gan yr artist Hanna Harris o Gaerdydd.
Am wybodaeth bellach neu i drefnu sgwrs, cysylltwch! post@llais.cymru / 07817591930.