top of page

Rheolwr Marchnata a PR Rhan Amser - Llais Cymru




*We’re recruiting a part time Marketing and PR Manager. As a bilingual company, the ability to communicate and write confidently in Welsh is essential for this role.


Rôl:

Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol i weithio ar amrywiaeth o brosiectau ar gyfer cleientiaid Llais Cymru. Mae’r gwaith yn amrywiol ac yn cynnwys;


Creu a rhannu cynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Creu a rhannu cylchlythyron.

Ysgrifennu datganiadau i’r wasg.

Ymgysylltu gyda busnesau.


Oriau gwaith:

Mae hon yn swydd rhan amser, dau ddiwrnod yr wythnos.


Patrwm gwaith:

Mae Llais Cymru yn cynnig patrwm gweithio hyblyg er mwyn sicrhau bod staff yn gallu cael y balans cywir rhwng bywyd gwaith a bywyd personol. Mae sicrhau bod ein staff yn gallu gweithio o amgylch bywyd teuluol ac ymrwymiadau gofal a phersonol yn hollbwysig i ni, er mwyn sicrhau hapusrwydd ac egni ein staff.


Lleoliad:

Mae hon yn swydd y gellir ei gweithredu o adref mewn unrhyw ran o Gymru. Bydd gofyn i chi deithio yn achlysurol er mwyn creu cynnwys a mynychu rhai digwyddiadau, felly mae angen trwydded yrru a mynediad i gerbyd.


Cyflog:

Bydd y swydd ar delerau llaw-rydd gyda’r ffi dyddiol yn ddibynnol ar brofiad.


Chi:

Mae’r swydd hon yn gofyn am unigolyn creadigol, brwdfrydig, egnïol a hyderus.


Bydd ganddoch chi brofiad o farchnata a chyfathrebu dwyieithog a byddwch chi’n angerddol am rannu straeon pobl ar lwyfannau gwahanol.


Cais a Dyddiad Cau:

Gofynnir i chi anfon CV cyfredol a fideo hyd at 60 eiliad o hyd yn cyflwyno eich hun a pam eich bod yn awyddus i ymgeisio am y swydd. Anfonwch eich cais ar ebost at heulwen@llaiscymru.wales


Dyddiad cau: Mawrth 18 am 17:00 GMT.

 
 
 

Yorumlar


bottom of page