top of page

Bbc RADIO CYMRU

Mae rhannu straeon a phrofiadau o bob math yn ddileit mawr i Heulwen ac i ni fel cwmni. Mae Heulwen yn angerddol am sicrhau bod lleisiau newydd a lleisiau pawb yn cael eu clywed, ac roedd rhoi platfform i leisiau newydd i drafod eu profiadau real nhw o dlodi a digartrefedd yng Nghymru, yn bwysig iawn i ni.

Yn 2020 cafodd ein rhaglen annibynnol Mae'r Cymru'n Dlawd ei darlledu ar BBC Radio Cymru. Dyma'n rhaglen annibynnol gyntaf ni ac roedd yn fraint codi ymwybyddiaeth o bwnc sy'n effeithio gymaint o bobl yng Nghymru heddiw. Aethym ati hefyd i gynhyrchu pecynnau pellach ar y pwnc ar gyfer rhaglen Dros Ginio BBC Radio Cymru.

bottom of page