top of page

Disgrifiad Swydd – Rheolwr Marchnata

Cyflog: £18,000 am 3 diwrnod/ 24 awr yr wythnos. (Cyfwerth â £30,000 pro rata).

 

Ffenest Siop

Mae Ffenest Siop yn blatfform unigryw ac arloesol gan gwmni Llais Cymru. Nôd Ffenest Siop yw hybu’r iaith Gymraeg a’r economi leol mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. Wedi ei sefydlu yn 2020, mae Llais Cymru yn gwmni marchnata a PR dwyieithog sy’n helpu busnesau a sefydliadau i serennu, i gyraedd mwy o gwsmeriaid a hybu gwerthiant.

 

Y Swydd

Ry’n ni’n chwilio am berson pobl, sy’n angerddol am Gymru a’r Gymraeg ac sy’n frwdfrydig dros hybu busnesau, gwasanaethau a’r economi leol. Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am weithredu’r strategaeth farchnata ar gyfer Ffenest Siop gan gynnwys marchnata digidol, rheoli a diweddaru’r wefan a gwaith marchnata wyneb yn wyneb. Bydd yr unigolyn yn derbyn cefnogaeth gan ac yn rhan o dîm hwyliog Llais Cymru.

 

Prif gyfrifoldebau

 

  • Gweithredu’r strategaeth farchnata yn unnol â’r brand a’r amserlen weithredol er mwyn cyraedd y targedau a nodir.

  • Prif gyswllt ar gyfer defnyddwyr y wasanaeth.

  • Rheoli a diweddaru’r wefan.

  • Rheoli a chreu cynnwys ysgrifenedig a gweledol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

  • Casglu data ar gyfer Rheolwr y prosiect a’r defnyddwyr.

  • Sgiliau Hanfodol

  • Person pobl, unigolyn cyfeillgar sy’n hyderus wrth gyfathrebu mewn person, ar-lein ac ar y ffôn.

  • Person trefnus, creadigol ac egniol.

  • Y gallu i gyfathrebu ac ysgrifennu’n hyderus yn y Gymraeg.

  • Profiad blaenorol o farchnata.

  • Yn hyderus wrth farchnata ar-lein a chreu cynnwys trawiadol a deniadol.

  • Yn angerddol am weld Cymru a’r Gymraeg yn ffynnu.

  • Adnabyddiaeth dda o Gymru.

  • Sgiliau Dymunol

  • Profiad blaenorol o weithio ar wefannau.

  • Sgiliau dylunio graffeg.

  • Sgiliau ffilmio a golygu.

 

Patrwm gwaith

3 diwrnod/ 24 awr yr wythnos yn cynnwys awr ginio.

 

Gellir gweithredu’r swydd o adref mewn unrhyw ran o Gymru.

 

Mae’r swydd yn cynnwys patrwm gweithio hyblyg er mwyn cefnogi unigolion sydd â gofynion gofal/ personol, ond bydd angen gweithredu’r swydd rhwng 9 a 6 ac rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener. Mae posibilrwydd y bydd gofyn am weithio yn hwyrach neu ar benwythnosau yn achlysurol, ond bydd hynny’n cael ei drafod ymlaen llaw.

 

Bydd angen mynychu cyfarfodydd mewn person yn achlysurol yn un o ardaloedd ARFOR. Bydd Rheolwr y prosiect yn sicrhau bod digon o rybudd am y dyddiadau ac amseroedd ymlaen llaw.

 

Gwneud cais?

I ymgeisio ar gyfer y swydd hon, sydd wedi’i ariannu trwy gymorth gan gronfa her ARFOR, gofynnir i chi anfon CV a chlip fideo hyd at funud o hyd yn cyflwyno eich hun yn y Gymraeg, gan nodi pam eich bod chi’n awyddus i ymgymryd â’r swydd a pryd rydych chi ar gael i ddechrau. Gellir ffilmio’r fideo ar eich ffôn symudol. Bydd angen anfon eich CV a’r fideo at heulwen@llaiscymru.wales erbyn 12 o’r gloch ar yr 8fed o Fawrth 2024. 

 

Mae Llais Cymru yn awyddus i sicrhau cyfle cyfartal i bawb, os oes unrhyw anhawster wrth ymgeisio am y swydd yn y fformat uchod, mae croeso i chi gysylltu â Heulwen ymlaen llaw.

Logo ARFOR.jpg
Logo Llywodraeth Cymru.jpg
bottom of page